Nid yw yn realistig disgwyl i asiantaethau ysbïo’r gwledydd gorllewinol allu rhagweld pob un o fygythiadau grwpiau brawychol fel ISIS cyn iddyn nhw ddigwydd, yn ôl Cymro sy’n arbenigo yn y maes.

Ers yr ymosodiadau ym Mharis ddydd Gwener mae llywodraethau Ewropeaidd a’r UDA wedi troi eu sylw at wella eu mesurau diogelwch ac edrych ar ffyrdd o daclo eithafwyr Mwslemaidd yn well.

Ond yn ôl Huw Dylan, darlithydd yn King’s College yn Llundain sydd yn arbenigo ar wybodaeth a diogelwch rhyngwladol, mae perygl na fydd bomio ISIS yn Syria a chryfhau pwerau cadw gwybodaeth ar-lein yn gwneud llawer o wahaniaeth.

Rhybuddiodd hefyd bod eithafwyr bellach yn defnyddio ffyrdd newydd o gyfathrebu sydd yn anodd eu monitro, a bod wastad siawns y bydd rhai’n llithro drwy’r rhwyd waeth faint o ddiogelwch sydd i’w gael.

Llygad barcud?

Ers yr ymosodiadau mae wedi dod i’r amlwg bod yr awdurdodau yn gwybod am rhai o’r brawychwyr fu’n gyfrifol am gyflafan Paris, fel yn achosion cynt megis yr ymosodiadau ar swyddfeydd Charlie Hebdo a’r milwr Lee Rigby.

Ond yn ôl Huw Dylan, does dim disgwyl i’r asiantaethau cudd-wybodaeth allu gwylio’r holl bobl yma o hyd, ac yn aml bydd yn rhaid iddyn nhw benderfynu pwy yw’r bygythiadau mwyaf.

“Mae wastad yn dod lawr i gwestiwn o adnoddau a blaenoriaethau – yn yr achos yma a rhai eraill roedd rhywun yn y cynlluniau wedi dod ar draws y radar,” meddai’r arbenigwr wrth golwg360.

“Ond roedd rhaid i rywun yn rhywle wneud penderfyniad – ydi’r person yn ddigon o fygythiad i gadw llygad barcud arno, hanner llygad barcud, neu ydyn nhw’n rhywun sy’n cefnogi eithafiaeth ond yn annhebygol o wneud unrhyw beth?

“Dim ond hyn a hyn o swyddogion sydd ganddyn nhw, ac roedd rhywun arall mwy na thebyg yn fwy o flaenoriaeth ar y pryd.”

Apiau’n cadw cyfrinachau

Yn ôl Huw Dylan mae llawer o’r gwaith monitro mae asiantaethau cudd-wybodaeth yn ei wneud ar grwpiau fel ISIS bellach yn digwydd ar-lein, ac anaml y bydden nhw’n defnyddio technegau fel ceisio plannu ysbiwyr o fewn cell.

Ond mae bron yn amhosib cael mynediad at rai sgyrsiau preifat sydd yn digwydd trwy apiau newydd, a dyw’r cwmnïau hynny ddim fel arfer yn awyddus i rannu’u gwybodaeth â llywodraethau oni bai bod rheswm da iawn dros wneud.

“Gydag ISIS yn benodol,” meddai Huw Dylan, “byddai lot o’r cadw llygad mwy cudd yn edrych ar eu cysylltiadau nhw ar we a ffonau symudol, radio tactegol yn ystod brwydrau, a cheisio gweld gyda phwy maen nhw’n cysylltu yn Syria, Irac ac Ewrop.

“Ond mae torri mewn i negeseuon yn anoddach achos bod encryption cryf ar lot o apiau ffôn sy’n golygu bod bron neb yn gallu darllen eich negeseuon oni bai am y person rydych chi’n ei anfon ato. Mae fel petai’n broblem sy’n tyfu.”

‘Gwastraff amser’

Fyddai deddfau allai roi mwy o bwerau i’r asiantaethau cudd gael mynediad i weld beth mae pobol yn chwilio amdano ar y We, fel y rhai allai gael eu cyflwyno ym Mhrydain, ddim chwaith yn debygol o allu atal ymosodiadau cyn iddyn nhw ddigwydd, yn ôl y darlithydd.

“Beth fyddai’r pwerau yma’n ei wneud yw golygu bod modd gweld i mewn i hanes [pori ar y We] rhywun, a helpu pobl sy’n ymchwilio i ddigwyddiad [ar ôl iddo fod],” meddai Huw Dylan.

“Ond fe allai’r wybodaeth gael ei ddefnyddio i ymchwilio ymhellach, ac o bosib arwain at atal digwyddiadau eraill.”

Serch hynny, hyd yn oed â phwerau ehangach fyddai gan yr heddlu ac ysbiwyr ddim amser nac adnoddau i wylio pawb o hyd.

“Mae’r syniad bod rhywun yn edrych ar ddefnydd gwe pawb yn anghywir,” meddai Huw Dylan.

“Does dim amser a dim digon staff ganddyn nhw, a byddai’n wastraff amser llwyr i wneud hynny.”

‘Bomio ddim am helpu’

Mae’r UDA a gwledydd Ewrop, yn ogystal â Rwsia, eisoes yn rhannu llawer o wybodaeth â’i gilydd ynglŷn â grwpiau brawychol fel ISIS, yn ôl Huw Dylan.

Ond mae cwestiynau o hyd ynglŷn â pha mor effeithiol mae gwledydd fel Ffrainc yn monitro’r unigolion hynny sydd yn teithio i’r dwyrain canol i ymuno â grwpiau eithafol.

Mae Huw Dylan yn cyfaddef bod “pryderon” y gallai ffoaduriaid o wledydd fel Syria sydd yn dod i Ewrop beri risg diogelwch, ond bod y risg hwnnw’n cael ei or-ddweud oherwydd bygythiadau ymffrostgar ISIS.

Ychwanegodd fodd bynnag ei bod hi’n “annhebygol” y byddai cyrchoedd awyr Prydeinig yn erbyn ISIS yn Syria yn gwneud llawer o wahaniaeth i’r bygythiad diogelwch.

“Byddai’n amlwg yn symbol gwleidyddol bod Prydain o ddifrif am daclo ISIL achos mai Syria yw eu pencadlys a dyna lle wnawn nhw gynllunio ymosodiadau,” meddai Huw Dylan.

“Ond heb strategaeth gyflawn i ddod a rhyfel cartref Syria i ben, dyw’r bomio ddim yn mynd i ddatrys y broblem.”

Stori: Iolo Cheung