Yr ymosodiadau ym Mharis nos Wener
Mae un o gyn-sêr tîm pêl-droed Ffrainc wedi dweud na ddylai ei wlad gynnal pencampwriaeth Ewro 2016 haf nesaf yn sgil yr ymosodiadau brawychol ym Mharis nos Wener.

Roedd Just Fontaine, prif sgoriwr y Ffrancwyr yng Nghwpan y Byd 1958, yn bresennol yn y Stade de France ar gyfer gêm gyfeillgar yn erbyn yr Almaen pan gafodd y maes ei dargedu fel rhan o’r ymosodiadau.

Mynnodd prif drefnydd Pencampwriaethau Ewrop fodd bynnag y byddai mesurau diogelwch ychwanegol yn cael eu cyflwyno ar gyfer y gystadleuaeth, sydd yn dechrau ym mis Mehefin.

Mae 129 o bobl eisoes wedi marw yn dilyn yr ymosodiadau, gyda llawer mwy wedi’u hanafu’n ddifrifol, ac mae’r heddlu yn parhau i chwilio am un o’r dynion sydd yn cael ei amau o fod wedi chwarae rhan.

‘Rhy beryglus’

Bydd grwpiau Ewro 2016 yn cael eu dewis fis nesaf, ac fe fydd Cymru yno ar ôl sicrhau eu lle mewn twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf ers 58 mlynedd.

Ond yn ôl Just Fontaine, a chwaraeodd yn y twrnament diwethaf i Gymru fod yn rhan ohoni, ni fyddai’n ddiogel i Ffrainc gynnal y gystadleuaeth fydd yn para mis.

“Fe all unrhyw wlad arall gynnal y twrnament, ond allwn ni ddim,” meddai wrth bapur newydd Almaeneg Die Welt.

“Fe ddylai Ffrainc hepgor y twrnament. Rydw i’n poeni y gallai’r dydd Gwener du yma gael ei hailadrodd. Allwn ni ddim sicrhau’r diogelwch sydd ei angen er mwyn cynnal digwyddiad mor fawr.

“Mae e’n rhy beryglus. Ydych chi wir yn meddwl y bydd pobl eisiau mynd i’r Stade de France yn y dyfodol?”

‘Risg wedi codi’

Mynnodd prif drefnydd Ewro 2016 Jacques Lambert fodd bynnag y byddai’r wlad yn gwneud y “penderfyniadau angenrheidiol” er mwyn sicrhau’r diogelwch gorau posib i’r cannoedd o filoedd o ymwelwyr fyddai’n dod i’r wlad y flwyddyn nesaf.

“Mae codi cwestiynau am ganslo Ewro 2016 yn chwarae i ddwylo’r brawychwyr,” meddai Lambert wrth ddarlledwr RTL o Ffrainc.

“Roedd y risg wedi codi ym mis Ionawr [yn dilyn ymosodiadau Charlie Hebdo] ac mae e wedi codi eto.

“Fe fyddwn ni’n cymryd y penderfyniadau angenrheidiol er mwyn i Ewro 2016 allu digwydd yn yr amodau diogelwch gorau posib.

“Wnâi ddim datgelu beth wnawn ni achos fe fyddai hynny’n rhoi rhybudd i’n gwrthwynebwyr. Mae diogelwch yn y meysydd yn gweithio’n dda, mae’r risg uwch allan yn y strydoedd ble bydd pobl yn ymgasglu.”