James Chester
Mae’n deg dweud nad ydi James Chester yn cael ei ystyried gan lawer fel rhywun fydd yn gorfod ymladd yn galed am ei le ar yr awyren i Ffrainc wrth i Gymru deithio i Ewro 2016.
Ond mae amddiffynnwr West Brom wedi cyfaddef na yw’n cymryd unrhyw beth yn ganiataol wrth iddo geisio sicrhau ei fod yn cael bod yn rhan o’r garfan ym Mhencampwriaethau Ewrop yr haf nesaf.
Ers derbyn yr alwad gan Chris Coleman nôl ym Mehefin 2014 yn gofyn iddo chwarae pêl-droed rhyngwladol dros Gymru mae’r amddiffynnwr wedi rhoi sawl perfformiad gwych.
Ar ôl chwarae chwech o’r deg gêm ragbrofol yn ymgyrch Ewro 2016 ers hynny, gan greu partneriaeth dda ag Ashley Williams yng nghanol yr amddiffyn, mae’n saff dweud bod Chester wedi cymryd ei gyfle.
‘Cyfle gwirioneddol dda’
Ym mis Mehefin roedd yn rhan o’r tîm a drechodd Gwlad Belg, gan serennu wrth gadw pobl fel Eden Hazard a Kevin De Bruyne yn ddistaw, ac mae’n amlwg bod Chester bellach yn llawn hyder.
“Y peth mwyaf pwysig ers i mi ddod i mewn oedd profi fy hun ar y cae fy mod i’n ddigon da i fod yma, a dw i’n teimlo mod i wedi gwneud hynny, felly dyna oedd y peth pwysicaf i mi o ran integreiddio gyda’r hogiau eraill,” meddai Chester.
“Ond oddi ar y cae mae o wedi bod yn hawdd cymysgu â phawb a dw i’n hapus iawn i fod yma.”
Mae’n amlwg hefyd bod rheolwr Cymru Chris Coleman yn meddwl yn fawr o’r amddiffynnwr, ar ôl mynd i’r ymdrech o’i berswadio i gynrychioli Cymru.
“Mae Coleman wedi dweud os ydw i’n ffit, bod gen i gyfle gwirioneddol dda o chwarae felly mae o fyny i mi,” ychwanegodd Chester.
Brwydro am le
Byddai llawer yn synnu i glywed felly bod chwaraewr oedd yn rhan mor allweddol o amddiffyn a ildiodd dim ond pedair gôl mewn deg gêm ragbrofol yn poeni am ei le yn y garfan.
Ond ag yntau dim ond wedi chwarae pum gêm dros ei glwb West Brom ers arwyddo yn yr haf, mae Chester yn poeni am yr effaith y gallai hynny ei gael ar ei gyfleoedd gyda Chymru.
“Dw i’n gwybod er mwyn chwarae ar y lefel hon bod rhaid i mi chwarae i fy nghlwb, achos mae’n amhosib dod i’r lefel [rhyngwladol] a bod ar eich gorau heb fod yn chwarae i’ch clwb bob wythnos,” meddai Chester wrth siarad ar ôl colled Cymru yn erbyn yr Iseldiroedd nos Wener.
“Dw i’n gwybod fy hun bod angen i mi chwarae dros fy nghlwb er mwyn rhoi’r siawns orau o fynd i Ffrainc a chwarae, hyd yn oed os ydw i’n credu mod i’n ddigon da i chwarae.”
Herio’r goreuon
Er gwaethaf y canlyniad yn erbyn yr Iseldiroedd fe berfformiodd Cymru’n dda ac roedd llawer o bethau cadarnhaol i’w cymryd o’r gêm, yn enwedig gyda Coleman yn methu’r drindod ymosodol o Gareth Bale, Aaron Ramsey a Hal Robson-Kanu.
Er na wnaeth yr Iseldiroedd gyrraedd Ewro 2016, mynnodd Chester fel sawl un arall o’r garfan fod y gêm wedi bod yn brawf defnyddiol i’r tîm cyn y twrnament yn Ffrainc yr haf nesaf.
“Dyma’r lefel fyddwn ni’n ei wynebu yn Ffrainc, mae llawer wedi cael eu sgwennu a’i ddweud am y ffaith bod yr Iseldiroedd wedi methu â chyrraedd yr Ewros ond fe welon ni’r ansawdd oedd ganddyn nhw,” meddai.
“Maen nhw dal i fod yn un o’r timau gorau yn y byd felly mae’n brawf da, achos rydyn ni’n gwybod y bydd pob gêm allan yn Ffrainc ar yr un lefel hefyd,”
Stori: Jamie Thomas