Roedd un o’r hunanfomwyr a dargedodd Baris neithiwr, yn Ffrancwr ifanc oedd yn wybyddus i’r awdurdodau oherwydd ei gysylltiadau gyda gweithgareddau Islamaidd eithafol.
Mae dau o swyddogion heddlu Ffrengig wedi cadarnhau fod y dyn ifanc ymhlith yr ymosodwyr a chwythodd eu hunain i fyny yn neuadd gyngerdd Bataclan ym Mharis neithiwr.
Yn gynharach heddiw, fe gadarnhaoedd yr heddlu fod un arall o’r hunanfomwyr, yn ardal stadiwm chwaraeon y Stade de France, yn ddeilydd pasbort o Syria.
Does yr un o’r ymosodwyr wedi’i enwi hyd yn hyn.