Mae pobol Paris wedi bod yn ciwio am oriau er mwyn rhoi gwaed. Maen nhw hefyd wedi bod yn gadael blodau a chardiau y tu allan i’r neuadd gyngerdd lle cafodd 100 o bobol eu lladd gan hunanfomwyr.

Er eu bod nhw wedi’u hysgwyd gan yr ymosodiadau terfysgol, mae nifer fawr o drigolion dwyrain Paris wedi gwneud eu ffordd i geisio helpu’r 200 o bobol sydd wedi’u hanafu gan y ffrwydriadau yn Neuadd Bataclan, lle’r oedd band roc trwm yn perfformio neithiwr.

Mae ciwiau hir o roddwyr gwaed yn ymestyn o Ysbyty St Louis, dafliad carreg o fan y tollti gwaed.