Mae dynes wedi marw, wedi gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yng Nghasnewydd neithiwr.

Fe gafodd y wraig, a oedd yn cerdded ar y pryd, ei chludo o safe’r ddamwain ar Corporation Road, i Ysbyty Brenhinol Gwent tua 7.30yh. Roedd hi’n diodde’ o anafiadau difrifol, a bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r ffordd wedi ail agor erbyn hyn, a hynny ar ol cyfnod ar gau tra’r oedd ymchwiliad yn mynd rhagddo.

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar dystion i ddod ymlaen gyda gwybodaeth am y digwyddiad.