Tony Blair gyda George Bush
Mae Tony Blair, y Prif Weinidog wnaeth arwain gwledydd Prydain i ryfel yn Irac yn 2003, wedi lansio menter newydd i hybu heddwch rhwng Israel a Phalestina.

Daw’r cyhoeddiad fisoedd ar ôl iddo roi’r gorau i’w waith fel llysgennad rhyngwladol y Dwyrain Canol.

Dywedodd y byddai ei brofiad a’r rhwydwaith o gysylltiadau y mae wedi’i gwneud yn ystod yr wyth mlynedd bu’n diplomydd yn y rhanbarth, yn ei helpu.

Daeth ei gyhoeddiad ar ddiwrnod pan mae hunanfomiwr wedi lladd 17 bobol mewn gwasanaeth coffa yn Baghdad, Irac.

Fe gafodd o leia’ 43 o bobol eu hanafu.

Yn gynharach roedd bom ar ochr y ffordd wedi lladd o leia’ pump ac anafu 15 ger allor Shiite yn Baghdad.

Ei gyfrifoldebau

Bydd Tony Blair yn hybu menter a gafodd ei chreu yn 2002 i gynnig cytundeb heddwch gydag Israel, gweithio i wella economi Palestina a cheisio dod â llywodraeth Israel a Phalestina at ei gilydd.

Dywedodd Tony Blaid wrth ohebwyr yn Jerwsalem: “Mae cymaint o bethau positif a allai ddigwydd yn y rhanbarth hwn.”