Safle'r tan mewn clwb nos yn Bucharest
Mae nifer y bobol a fu farw o ganlyniad i dân mewn clwb nos yn Rwmania wedi codi i 46 erbyn hyn.

Y ffotograffydd a golygydd teledu, Teodora Maftei, 36, yw’r diweddaraf i farw o ganlyniad i’w hanafiadau. Bu farw mewn ysbyty yn Israel.

Fe ddigwyddodd y tân yng nghlwb nos Colectiv ym mhrif ddinas Bucharest ddiwedd mis Hydref.

Mae nifer o bobol wedi protestio yn galw am fesurau diogelwch gwell i adeiladau’r brifddinas a’r maestrefi.

Fe achosodd hyn i’r Prif Weinidog, Victor Ponta, ymddiswyddo’r wythnos diwethaf.

Fe fydd yr heddlu yn cynnal ymchwiliadau i hawliau’r clwb i weithredu pan mai un allanfa yn unig oedd yn yr adeilad.

Fe gafodd tri o berchnogion y clwb eu harestio’r wythnos diwethaf ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i achos o ddynladdiad a niwed corfforol anfwriadol.