Mae senedd ranbarthol Catalwnia wedi cymeradwyo cynllun i sicrhau annibyniaeth o Sbaen erbyn 2017.

Roedd y siambr yn Barcelona wedi pasio’r cynnig a gafodd ei gyflwyno gan y gynghrair, Junts pel Sí (Gyda’n Gilydd dros Ie) a’r blaid asgell chwith eithafol yr Ymgeisyddiaeth Unedig Boblogaidd (CUP), gyda 72 o blaid a 63 yn erbyn y cynllun.

Fe wnaeth y grwpiau hyn wedi rhoi addewid i fwrw mlaen gyda’r agenda dros annibyniaeth ar ôl ennill mwyafrif yn y senedd yn yr etholiadau rhanbarthol ym mis Medi, ond mae llywodraeth ganolog Sbaen wedi beirniadu’r cynlluniau yn chwyrn.

Cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y penderfyniad

Mae Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy eisoes wedi dweud y bydd ei lywodraeth yn apelio yn erbyn y penderfyniad yn y Llys Cyfansoddiadol ac mae disgwyl iddo siarad yn gyhoeddus yn ddiweddarach heddiw.

Roedd y cynnig, yn datgan dechrau’r broses “tuag at greu Catalwnia ar ffurf gweriniaeth annibynnol” a “proses o ddatgysylltu democrataidd sydd ddim yn gaeth i benderfyniadau sefydliadau gwladwriaeth Sbaen.”

Fe wnaeth gwleidyddion o blaid annibyniaeth godi a chymeradwyo’r fuddugoliaeth yn y siambr a fydd yn debygol o’u harwain at ddadl danbaid â’r llywodraeth ganolog yn uchel lys Sbaen.

“Mae cri gynyddol yn galw am droi Catalwnia, nid yn unig yn wlad ond yn wladwriaeth gyda phopeth y mae hynny’n ei olygu,” meddai Raul Romeva, arweinydd y gynghrair Gyda’n Gilydd dros Ie, ar ddechrau’r sesiwn yn y siambr.

Roedd canghennau Catalwnia o blaid geidwadol Sbaen sydd mewn grym ar hyn o bryd – y Blaid Boblogaidd, a’r gwrthbleidiau Sosialaidd wedi ceisio atal y bleidlais, ond roedd llys cyfansoddiadol Sbaen wedi dweud yr wythnos ddiwethaf y gallai fynd ymlaen.