Baner Catalunya
Fe fydd pleidlais yn senedd Catalunya yn Barcelona ddydd Llun ar gynnig gan y pleidiau cenedlaethol i hawlio annibyniaeth.

Mae hyn ar sail eu llwyddiant i ennill 72 o 135 o seddau rhyngddynt yn yr etholiad ym mis Medi.

Dywed llywodraeth Sbaen ym Madrid, fodd bynnag, fod y cynnig yn anghyfansoddiadol ac y bydd yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn llywodraeth Catalunya os bydd yn cael ei gymeradwyo.

Dywed y Dirprwy Brif Weinidog Soraya Saenz de Santamaria y bydd y llywodraeth yn ceisio barn Cyngor y Wladwriaeth ac wedyn yn galw cyfarfod arbennig o’r cabinet i gyhoeddi y bydd yn ceisio dyfarniad gan y Llys Cyfansoddiadol.

Ffurfio llywodraeth

Yn y cyfamser, parhau mae’r trafodaethau rhwng y ddwy blaid genedlaethol yn Catalunya ar ffurfio llywodraeth.

Er eu bod wedi cytuno ar y cynnig i hawlio annibyniaeth, maen nhw’n anghytuno’n gryf ynghylch pwy ddylai fod yn arlywydd.

Mae’r arlywydd dros dro Artur Mas wedi addo annibyniaeth i Catalunya o fewn 18 mis os caiff ei ddewis yn arlywydd, ond mae’r blaid genedlaethol arall, CUP, yn gwrthod ei gefnogi.

Mae gan y senedd tan 9 Ionawr i ffurfio llywodraeth neu alw etholiad newydd.

Mae’r mwyafrif o arolygon barn yn dangos yr hoffai pobl Catalunya weld refferendwm ar annibyniaeth, ond yn awgrymu y byddai canlyniad pleidlais o’r fath yn debygol o fod yn agos iawn.