Mae’r gwasanaethau achub wedi ailddechrau chwilio am bysgotwr a gafodd ei weld yn syrthio o fflodiat Tawe i afon Tawe neithiwr.

Derbyniwyd galwad gan Wylwyr y Glannau ychydig wedi hanner nos, a chafodd bad achub y Mwmbwls a hofrennydd o San Athan eu hanfon yno.

Mae’r chwilio wedi ailgychwyn y bore yma, gyda thimau achub gwylwyr y glannau y Mwmbwls a Port Talbot, timau chwilio’r heddlu a bad achub RNLI y Mwmbwls yn cymryd rhan.

Dywedodd Pete Summers, Comander Ardal Gwylwyr y Glannau, sydd wrthi gyda’r timau achub ar hyn o bryd:

“Rydym yn bryderus iawn am ddiogelwch y dyn yma. Roedd y tywydd neithiwr yn ddrwg, gyda môr cymedrol i arw, a stormydd o wynt a glaw. Bydd timau achub gwylwyr y glannau yn chwilio o’r tir y bore yma, tra bydd y bad achub yn chwilio ardal Bae Abertawe.”