Sharm el-Sheikh
Am y tro cyntaf, mae Llywodraeth Yr Aifft wedi agor tri beddrod yn ninas hynafol Luxor i’r cyhoedd gyda’r gobaith o ddenu twristiaid.
Daw’r penderfyniad ar ôl i hediadau o Sharm el-Sheikh i’r DU gael eu hatal neithiwr yn dilyn pryderon am ddiogelwch yn y maes awyr yno.
Mae cwmni awyrennau Lufthansa o’r Almaen hefyd wedi cyhoeddi prynhawn ma na fydd eu hawyrennau gyda chwmnïau Edelweiss a Eurowings yn hedfan i Sharm el-Sheikh am y tro.
Mae’n dilyn pryderon mai bom a achosodd i awyren o Rwsia daro’r ddaear ym Mhenrhyn Sinai ddydd Sadwrn, gan ladd 224 o bobl ar ei bwrdd.
Dywedodd Gweinidog Hynafiaethau Yr Aifft, Mamdouh Eldamaty, fod y digwyddiad yn drist iawn, ond mynnodd nad gweithred brawychol a achosodd i’r awyren daro’r ddaear.
Ychwanegodd fod y beddrodau sydd newydd gael eu hagor ymhlith y rhai pwysicaf mewn cyfnod a ddaeth i ben dros 3,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae gweinidog tramor yr Aifft wedi beirniadu penderfyniad y DU i atal hediadau o Sharm el-Sheikh, gan ddweud y bydd yn cael effaith niweidiol iawn ar dwristiaeth yno.
Mae’r ymchwiliad i achos y ddamwain ddydd Sadwrn ond dywedodd Prif Weinidog y DU David Cameron ei bod hi’n “debygol” mai bom oedd yn gyfrifol.
Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn honni mai nhw oedd yn gyfrifol am y trychineb.