Y Kingsway yn Abertawe
Mae cwest i farwolaeth dyn 37 oed ar ffordd y Kingsway yn Abertawe wedi clywed fod pryderon wedi bod ynghylch cynlluniau i newid y ffordd ers y dechrau.

Fe wnaeth ymgynghorwyr arbennig dynnu sylw at y cynllun ffordd anarferol – gyda lôn i fysiau yn mynd dwyffordd a lôn i gerbydau eraill yn mynd un ffordd – pan oedd y prosiect yn cael ei gynllunio.

Cafodd pryderon hefyd eu codi yn dilyn archwiliadau diogelwch a wnaed gan y cyngor ei hun – un pan ddechreuwyd y gwaith yn 2006 a’r ail wythnos ar ôl i lonydd bysiau Kingsway agor yn 2009.

Bu farw Daniel Foss ar ôl iddo gamu o flaen bws yng nghanol y ddinas ar Fedi 24 ddwy flynedd yn ôl.

Daeth archwiliad post-mortem i’r casgliad fod Daniel Foss wedi dioddef anafiadau difrifol i’w ben a’i fod wedi marw yn y fan a’r lle. Roedd olion canabis yn ei gorff.

Yn y cwest ddoe, dywedodd gyrrwr bws, Steven Davies, fod y Kingsway wedi “bod yn beryglus erioed”.

Cafodd system un ffordd ei chyflwyno ar ôl i’r Sarjant Louise Lucas gael ei lladd ar y Kingsway fis Mawrth eleni.

Mae’r cwest yn parhau.