Mae gwrthryfelwyr yn Ne Sudan wedi cipio badau’r Cenhedloedd Unedig a oedd yn cario arfau i lawr afon Nîl Wen at luoedd llywodraeth y wlad, ac maen nhw’n dal 16 o filwyr yn gaeth yn erbyn eu hewyllys.

Mae dau o filwyr y llywodraeth, tri swyddog yr asiantaeth ddiogelwch cenedlaethol, ynghyd â chwech o dechnegwyr wedi’u dal.

Mewn datganiad, mae’r rebeliaid yn dweud eu bod yn gorfod “gweithredu’n galed yn erbyn ein gelynion sy’n cynnwys milwyr y Cenhedloedd Unedig, er mwyn i’r byd ddod i wybod y gwir am y cynllwyn sydd ar waith rhwng byddin De Sudan ac ymgyrch y Cenhedloedd Unedig”.

Fe gafodd y badau eu cipio yn Kaka, pentre’ bychan ar lan orllewin ol yr afon, ac ardal sy’n cael ei rheoli gan y gwrthryfelwyr. Mae glan ddwyreiniol yr afon, ble mae gan y Cenhedloedd Unedig wersylloedd, yn cael ei rheoli gan luoedd y llywodraeth.