Mae plaid Gomiwnyddol China wedi penderfynu dileu polisi ‘un plentyn’ y wlad, gan ganiatau i gyplau fagu dau blentyn.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r wlad wedi symud tuag at ysgafnhau’r rheolau a gyflwynwyd yn 1980 fel modd i reoli poblogaeth a chyfyngu’r angen am ddwr ac adnoddau eraill.

Yn ôl asiantaeth newyddion Reuters, mae’r polisi yn rhan o broses i lacio cyfyngiadau cynllunio teulu’r wlad, a ddechreuodd yn 2013 ble roedd Beijing yn barod i ganiatau mwy o deuluoedd gael dau o blant ar yr amod eu bod yn cyrraedd meini prawf penodol.

Fe alwodd ysgolheigion yn China ar y Llywodraeth i newid y drefn sy’n cael ei gweld erbyn hyn fel rheol hen ffasiwn. Maen nhw’n dadlau hefyd bod cyfyngu ar faint o blant y caiff cwpl eu magu, yn crebachu’r gweithlu.