Mae palod wedi eu henwi ymysg y pedair rhywogaeth o adar sydd mewn perygl o ddiflannu o wledydd Prydain.

Cafodd palod Môr Iwerydd, sydd i’w canfod ar ynysoedd Dewi a Gwales yn Sir Benfro, eu rhoi ar Restr Goch ddiweddaraf yr Undeb Rhyngwladol er Gwarchod Natur.

Ymysg yr adar eraill sydd bellach ar y rhestr mae’r Golomen Fair Ewropeaidd, Gwyach Gorniog a’r Hwyaden Bengoch.

Mae’n golygu bod wyth aderyn o Brydain bellach yn cael eu hystyried mewn perygl o gael eu colli, gyda 14 rhywogaeth arall yn agos at ddisgyn i’r categori hwnnw os yw pethau’n gwaethygu.

Yr un peryg ag i eliffantod a llewod

Er bod poblogaeth palod dal yn y miliynau, mae trafferthion bridio yn rhai o’i nythfaoedd mwyaf pwysig dros y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at lai o adar yn goroesi ac yn tyfu’n oedolion.

Mae’n golygu eu bod nhw bellach yn disgyn i gategori ‘risg o gael eu difodi’, y cyntaf o dri chategori sydd hefyd yn cynnwys ‘perygl o gael eu difodi’ a ‘perygl enbyd o gael eu difodi’.

Mae niferoedd Colomennod Mair hefyd wedi gostwng o 30% yn Ewrop dros y 16 mlynedd, gyda’r gostyngiad mwyaf sylweddol yn digwydd ym Mhrydain ble mae 9 o bob 10 o’r adar wedi marw ers yr 1970au.

Mae niferoedd hwyaid pengoch hefyd wedi gostwng yn ddiweddar, tra bod sawl aderyn arall megis y bioden fôr, cornicyll, pibydd cambig a’r rhostog goch hefyd bellach ar y rhestr o rywogaethau sydd yn agos at fod mewn perygl.

“Mae’r dirywiad ym myd natur Prydain yn syfrdanol ac mae hyn yn cael ei atgyfnerthu pan ‘dych chi’n sôn am y ffaith fod gan balod a cholomennod Mair nawr yn wynebu’r un lefel o fygythiad difodi â’r llew a’r eliffant Affricanaidd, ac mewn mwy o berygl o ddifodi na’r morfil cefngrwm,” meddai cyfarwyddwr cadwraeth yr RSPB Martin Harper.