Mae tri o bobol wedi’u lladd wedi achos o saethu mewn canolfan siopa yn yr Unol Daleithiau.

Mae heddlu Indianapolis wedi cadarnhau fod y tri wedi’u cludo i’r ysbyty. Mae un mewn cyflwr difrifol, ond mae disgwyl i’r tri oroesi.

Does neb wedi’i ddal eto mewn cysylltiad â’r digwyddiad y tu mewn i’r Washington Square Mall yn nwyrain y ddinas.

Nid achos o saethu’n ddall at unrhyw un oedd o, yn ôl yr heddlu wedyn. Y gred ydi fod y saethwr a’r un sydd wedi’i anafu waetha’, yn adnabod ei gilydd.

Oedolion ifanc ydi’r tri sydd yn yr ysbyty – dau ddyn ifanc, ac un ferch.