Mae dyn wedi’i arestio mewn cysylltiad â marwolaeth dynes y daethpwyd o hyd i’w sgerbwd mewn coedwig yn Awstralia, rhyw 750 milltir o’r fan lle cafwyd hyd i gorff ei merch wedi’i adael mewn cês.

Fe ddaw’r datblygiad hwn wythnos wedi i’r heddlu adnabod yn ffurfiol weddillion Karlie Jade Pearce-Stevenson, 20, a’i merch ddwyflwydd oed, Khandalyce Pearce; a saith mlynedd, yn ôl yr heddlu, wedi i’r ddwy gael eu lladd ar adegau gwahanol, mewn llefydd gwahanol.

Fe ddefnyddiodd twyllwyr ffôn poced y fam am dair blynedd wedi ei marwolaeth, er mwyn gwneud i deulu a ffrindiau gredu ei bod hi’n dal yn fyw, yn ôl yr heddlu. Fe gafodd mam Ms Pearce-Stevenson ei pherswadio i roi arian yng nghyfri’ banc ei merch oedd eisoes wedi marw, ac fe gafodd budd-daliadau eu talu i’r un cyfri o bwrs y wlad.

Fe ddefnyddiwyd cerdyn credyd Ms Pearce-Stevenson mewn nifer o ddinasoedd, ac am y tro diwetha’ ym mis Mawrth 2012.

Mae Daniel Holdom, 41, wedi ymddangos gerbron Llys Lleol Maitland, rhyw 95 milltir i’r gogledd o ddinas Sydney, ar gyhuddiad o lofruddiaeth Ms Pearce-Stevenson. Fe gafodd cais am fechnïaeth ei wrthod gan yr ynad, John Chicken.

Dydi Daniel Holdom ddim wedi’i gyhuddo mewn perthynas â marwolaeth y ferch fach. Mae’r ymchwiliad i’w marwolaeth hi yn parhau.