Mae swyddogion wedi cysylltu â’r awdurdodau yng Nghanada i geisio darganfod a oedd Prydeinwyr ar fwrdd llong a suddodd, gan ladd o leiaf pump o bobl.

Roedd 27 o bobl wedi bod yn gwylio morfilod ar fwrdd y llong pan aeth o drafferthion ger arfordir British Columbia bnawn dydd Sul (amser lleol).

Mae timau chwilio ac achub wedi bod yn chwilio’r ardal ger Tofino ar Ynys Vancouver.

Mae 21 o bobl bellach wedi cael eu hachub ac mae un person yn parhau ar goll.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Yn dilyn y digwyddiad yn Tofino rydym yn ceisio cael gwybodaeth ar frys gan yr awdurdodau lleol ac yn barod i ddarparu cefnogaeth gonsylaidd i unrhyw Brydeinwyr sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad.”

Roedd y daith wedi cael ei threfnu gan  gwmni lleol, Jamie’s Whaling Station.