Y difrod wedi Teiffwn Koppu yn Ynysoedd y Philipinau
Mae o leiaf 11 o bobl wedi marw yn Ynysoedd y Philipinau wrth i deiffŵn Koppu wneud ei ffordd yn araf ar draws y wlad.

Mae’r teiffŵn eisoes wedi gorfodi 65,000 o bobl i adael eu cartrefi.

Mae’r fyddin, yr heddlu a gwirfoddolwyr wedi bod yn ceisio achub cannoedd o bobl oedd wedi methu gadael  eu cartrefi oherwydd  llifogydd yn nhalaith Aurora, yn y gogledd.

Daeth y teiffŵn â gwyntoedd cryfion a glaw trwm yn gynnar ddydd Sul gan adael naw talaith heb gyflenwad trydan.

Erbyn dydd Llun, roedd y teiffŵn wedi gwanhau rhywfaint gan droi’n storm drofannol gyda gwyntoedd o 65 mya.

Mae ffermydd cnydau reis un dalaith, Nueva Ecija wedi cael eu dinistrio’n gyfan gwbl, dyma brif gynnyrch y wlad, ac mae llawer yn dibynnu ar y ffermydd hyn i wneud bywoliaeth.

Mae o leiaf 11 o bobl wedi marw hyd yn hyn ar ôl iddyn nhw foddi, neu oherwydd tirlithriadau a choed yn disgyn.

Koppu yw’r 12fed storm eleni i fwrw Ynysoedd y Philipinau, sy’n cael tua 20 o stormydd a theiffwnau bob blwyddyn.

Yn 2013, fe wnaeth Teiffŵn Haiyan ddinistrio trefi cyfan yng nghanol yr ynysoedd, a gadawodd dros 7,300 o bobl yn farw neu ar goll.