Mae awyrennau jet Twrci wedi saethu drôn o’r awyr ar y ffin rhwng y wlad â Syria, yn ôl y fyddin.

Mae byddin Twrci yn dweud bod y drôn wedi anwybyddu tri rhybudd i adael y gofod yn yr awyr sy’ dan reolaeth Twrci.

Er nad yw’r fyddin yno yn gwybod yn iawn pwy oedd yn hedfan y drôn, mae gwefan y Daily Telegraph yn adrodd mai awyren di-beilot o Rwsia sydd wedi ei saethu lawr.

Yn gynharach fis yma roedd Twrci wedi cwyno am awyrennau Rwsia yn hedfan yn yr awyr yno heb ganiatâd, ac fe gafodd y tarfu yma ei gondemnio gan gynghreiriaid Twrci yn Nato.

Fe ddywedodd Igor Konashenkov, llefarydd Gweinyddiaeth Amddiffyn Rwsia, wrth asiantaethau newyddion y wlad honno bod holl awyrennau jet Rwsia wedi dychwelyd yn ddiogel a bod pob drôn yn “gweithio yn ôl eu harfer”.