Darn o awyren MH17
Fe fydd adroddiad terfynol i achos damwain awyren Malaysia Airlines  MH17 yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Bu farw 298 o bobol, gan gynnwys 10 o Brydain wrth i awyren Malaysia Airlines MH17 ddod i lawr mewn ardal o ddwyrain Wcráin ym mis Gorffennaf y llynedd. Roedd carfanau sy’n gefnogol i Rwsia yn gweithredu yn yr ardal honno ar y pryd ac roedd adroddiadau bod yr awyren wedi cael ei saethu i’r llawr.

Roedd yr awyren yn teithio o Amsterdam i Kuala Lumpur ar y pryd.

Mae teuluoedd y dioddefwyr yn paratoi at gyhoeddiad Bwrdd Diogelwch yr Iseldiroedd (DSB) a fydd yn cyhoeddi eu hadroddiad terfynol i’r ddamwain heddiw.

Ond, mae’n debyg mai esboniad rhannol a fydd yn yr adroddiad, gan nad ymchwiliad y DSB yn mynd i’r afael â “chyfrifoldeb neu fai”.

Mae ymchwiliad troseddol arall gan swyddfa erlynydd cenedlaethol yr Iseldiroedd yn ymdrin â hynny.

Bydd adroddiad y DSB yn canolbwyntio ar beth achosodd y gwrthdrawiad, ac yn asesu’r mater ynglŷn â hedfan dros ardaloedd lle mae gwrthdaro’n digwydd.

Fe fydd yr adroddiad hefyd yn ymchwilio i’r rheswm pam oedd yn rhaid i deuluoedd y dioddefwyr aros hyd at 4 diwrnod cyn cael cadarnhad am eu marwolaeth, ac i ba raddau oedd y teithwyr yn ymwybodol o’r hyn oedd yn digwydd cyn i’r awyren daro’r ddaear.

Mae’r ymchwiliad wedi’i arwain gan yr Iseldiroedd, am fod 196 o’r dioddefwyr yn dod o’r wlad honno.

Ailadeiladu fel rhan o’r ymchwiliad

 

Fe fydd Cadeirydd y DSB, Tjibbe Joustra, yn hysbysu’r teuluoedd am 10yb yn yr Hague heddiw, cyn rhyddhau cyflwyniad i’r wasg am 12.15yp yng nghanolfan awyr Gilze-Rijen yn ne’r Iseldiroedd.

Cafodd darnau creiddiol o’r awyren eu hailadeiladu yn y ganolfan honno, gyda swyddogion yn tynnu amlinelliad o’r awyren Boeing 777 ar y llawr. Roedd hynny’n fodd iddyn nhw osod darnau cyfatebol o’r malurion ar ei ben. Roedd y darnau hynny’n cynnwys caban y peilot, y dosbarth busnes, yr injan a darnau o’r adain chwith.

Fe gyhoeddodd y DSB adroddiad rhagarweiniol ym mis Medi’r llynedd a ddywedodd fod y malurion hynny yn “gyson â’r difrod sydd i’w ddisgwyl gan nifer fawr o wrthrychau pwerus yn treiddio o’r tu allan.”

Er gwaetha’r anawsterau i gael mynediad at y safle yn yr Wcráin oherwydd yr ymladd yno, fe lwyddodd yr ymchwilwyr i adfer y blwch du. Fe gafodd y cofiadur hwnnw ei drosglwyddo i’r DSB ar ôl cael ei archwilio gan Gangen Ymchwiliol i Ddamweiniau’r Awyr (AAIB) y DU.

Roedd y wybodaeth ar y blwch du yn dangos bod taith yr MH17 wedi parhau fel arfer hyd at 1.20yp [amser lleol] ar 17 Gorffennaf 2014.

Wedi hynny, fe ddaeth yr holl gofnodion “i ben yn sydyn.”

Roedd gan yr AAIB brofiad o ailadeiladu awyren wedi damwain o’r blaen, a hynny pan ffrwydrodd yr awyren Pan Am 103 dros Lockerbie yn Rhagfyr 1988.

Roedd diflaniad yr MH17 yn ddilyniad i ddiflaniad awyren arall gan Malaysia Airlines ym mis Mawrth y llynedd, sef yr MH370. Roedd yr awyren honno’n teithio o Kuala Lumpur i Beijing, ac roedd 237 o deithwyr yn teithio arni.