Gareth Bale
Mae Gareth Bale wedi canmol cefnogwyr “gwych” Cymru fel y rhai gorau yn y byd wrth i filoedd ohonyn nhw heidio i Gaerdydd heno ar gyfer dathliadau cyrraedd Ewro 2016.
Fe sicrhaodd Cymru eu lle yn Ffrainc y flwyddyn nesaf nos Sadwrn er iddyn nhw golli ym Mosnia, gan fod Cyprus hefyd wedi trechu Israel ar yr un pryd.
Mae’r tîm nawr yn paratoi ar gyfer gêm olaf eu hymgyrch heno, wrth iddyn nhw groesawu Andorra i Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes wedi addo dathliadau yn y stadiwm cyn ac ar ôl y gêm – gan gynnwys ambell “syrpreis” – i nodi camp hanesyddol y tîm o gyrraedd eu twrnament rhyngwladol cyntaf ers 58 mlynedd.
‘Cefnogwyr gorau yn y byd’
Un peth sydd wedi bod yn nodweddiadol o’r ymgyrch ragbrofol hon yw’r torfeydd gwych, gyda’r stadiwm yn llawn ar gyfer pob gêm gartref a miloedd yn teithio i rai o gorneli pellaf Ewrop i ddilyn y tîm.
Mae hynny wedi cynorthwyo at berfformiadau’r chwaraewyr drwy gydol yr ymgyrch, ac mae Gareth Bale yn gobeithio am fwy o’r un peth heno.
“Mae e wedi bod yn anghredadwy pa mor wych mae’r cefnogwyr wedi bod. Nhw yw rhai gorau’r byd, ac maen nhw wir wedi bod yn ddeuddegfed dyn yn ystod yr ymgyrch wrth ein helpu ni i groesi’r llinell,” meddai ymosodwr Cymru.
“Rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sydd wedi dod i’r gemau oddi cartref, ac yn y gemau cartref, a gobeithio y gall pawb droi lan yn gynnar [nos Fawrth] a mwynhau’r parti.”
Hwb y cefnogwyr
Mae un gêm yn enwedig yn aros yn y cof i Gareth Bale – y fuddugoliaeth gartref yn erbyn Gwlad Belg, pan sgoriodd e unig gôl y gêm a phan ddangosodd torf Cymru bod yr awyrgylch roedden nhw’n gallu’i greu yn Stadiwm Dinas Caerdydd cystal ag unrhyw le.
“Heb os, mae’r gêm yna yn erbyn Gwlad Belg yn sefyll allan i mi yn fwy na dim,” meddai’r gŵr sydd wedi sgorio chwe gôl i Gymru yn ystod yr ymgyrch.
“Roedden ni dan bwysau, 1-0 ar y blaen, ac wedyn ar ôl rhyw 70 munud fe ddechreuodd pawb ganu’r anthem. Fe roddodd e’r hwb ychwanegol yna roedd ei angen arnom ni, mae’n gwthio’ch ffiniau chi ar y cae ac weithiau ‘dych chi angen hynny.
“Maen nhw’n sicr wedi gwneud mwy na digon i’n cefnogi ni yn ystod yr ymgyrch yma, ac maen nhw’n helpu ni i groesi’r llinell bob tro.”
Barod i ddathlu
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes wedi cadarnhau y bydd adloniant i’w gael yn y stadiwm cyn y gêm heno, gyda’r Super Furry Animals yn chwarae o 7.00yh ymlaen cyn y gic gyntaf am 7.45yh.
Y disgwyl yw bod rhagor o ddathliadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer y diwedd hefyd, er bod CBDC yn gyndyn i ddatgelu mwy o fanylion ar hyn o bryd.
Yng nghanol hynny wrth gwrs fe fydd gêm bêl-droed yn cael ei chwarae, a gyda’r pwysau oddi ar ysgwyddau’r chwaraewyr bellach mae disgwyl i Gymru fynd amdani a cheisio cael rhywfaint o goliau i blesio’r dorf.
“Rydyn ni eisiau bod yn broffesiynol, cwblhau’r gwaith a rhoi’r parch mae Andorra yn ei haeddu iddyn nhw,” meddai Gareth Bale.
“Ond ar y llaw arall, fe allwn ni fwynhau ein hunain ychydig mwy, ymlacio, a gobeithio y caiff y cefnogwyr fwynhau eu diwrnod a’r sioe fach ar y diwedd!”