Mae o leiaf 35 o bobl wedi cael eu lladd mewn ymosodiadau mortar ar bentrefi yn nwyrain Irac, yn ôl heddlu’r wlad.
Dywedodd swyddog o ddinas Baquba bod nifer o bobl wedi marw pan laniodd y ffrwydron ar y pentrefi sydd ar gyrion y ddinas yn nhalaith Diyala.
Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau eto ond mae’r ardal yn un ble mae ymladdwyr y Wladwriaeth Islamaidd wedi cynnal sawl ymosodiad yn ddiweddar.
Mae’n debyg bod o leiaf 45 o bobl hefyd wedi cael eu hanafu yn y digwyddiad diweddaraf.