Porthladd Zeebrugge
Mae 11 o bobl ar long nwyddau o’r Iseldiroedd wedi cael eu hachub ar ôl i’r llong suddo oddi ar arfordir Gwlad Belg ar ôl gwrthdaro â thancer nwy.

Digwyddodd y ddamwain yn agos i’r ddyfrffordd brysur gerllaw porthladd Zeebrugge, lle mae llawer o longau yn croesi ar y ffordd i borthladdoedd mwyaf Ewrop fel Rotterdam ac Antwerp.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 4yb bore ‘ma, gyda’r tymheredd yn yr aer yn is na 10C.

Does dim adroddiadau am unrhyw niwed amgylcheddol mawr.

Mae’r tancer nwy wedi cael ei angori yn Zeebrugge erbyn hyn er mwyn asesu’r difrod.