Roedd plismon, a gafodd ei daro gan gar oedd wedi’i ddwyn, wedi marw o ganlyniad i anafiadau mewnol, yn ôl archwiliad post mortem.

Cafodd y Pc David Phillips, 34, ei daro gan gerbyd Mitsubishi Challenger L200 a oedd yn cael ei erlid gan yr heddlu. Roedd y car wedi gyrru yn syth at y plismon a swyddog arall wrth iddyn nhw geisio defnyddio dyfais a fyddai’n achosi pynjar, er mwyn atal y cerbyd.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Glannau Mersi, Syr Jon Murphy “nad oedd gobaith” gan y tad i ddau o blant wrth iddo gael ei daro gan y tryc.

Fe geisiodd ei gydweithwyr i achub ei fywyd ond bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Roedd y cerbyd wedi cael ei ddwyn mewn lladrad a chafwyd hyd i’r tryc yn ddiweddarach yn Wallasey.

Mae marwolaeth Pc Phillips yn cael ei drin fel achos o lofruddiaeth ac yn cael ei arwain gan uned troseddau difrifol Matrix Heddlu Glannau Mersi.