Mae’r Unol Daleithiau ac Afghanistan yn addo ymchwilio ar y cyd i amgylchiadau’r ymosodiad ar ysbyty yn Kunduz a laddodd 22 o bobol.

Tra bod ymladd stryd yn parhau rhwng milwyr ac aelodau o’r Taliban, mae’r awdurdodau yn rhybuddio y gallai pobol gyffredin gael eu dal yn gaeth yn y ddinas.

Ac wrth i awyrennau jet America gael eu hamau o “ymosod” ar ysbyty’r mudiad dyngarol, Medecins Sans Frontieres yn Kunduz, maer Arlywydd Obama ac arlywydd Afghanistan, Ashraf Ghani wedi addo ymchwiliadau.

Mae Barack Obama wedi addo cydweithio gydag Afghanistan a’i phartneriaid tramor er mwyn gwella diogelwch yn y wlad.