Mae’r awdurdodau yng Ngroeg wedi ail-agor neuadd Olympaidd, er mwyn rhoi lloches i ffoaduriaid sydd wedi bod yn gwersylla yn yr awyr agored yng nghanol dinas Athen.

Fe fu’r heddlu’n hebrwng bysiau yn cario tua 500 o bobol, y mwyafrif ohonyn nhw o Syria ac Afghanistan, o Sgwar Fictoria yng nghanol y ddinas, i Neuadd Fawr Galatsi.

Fe gafodd y neuadd ei defnyddio ar gyfer cystadlaethau tenis bwrdd a gymnasteg yn ystod Gemau Olympaidd 2014, a dyma’r ail leoliad Olympaidd i gael ei agor er mwyn cynnig lloches i ffoaduriaid yn ystod yr wythnosau diwetha’.

Mae trigolion lleol a grwp gwrth-hiliaeth wedi cynnal protestiadau yn y sgwar heddiw, gan annog llywodraeth Groeg i wneud mwy i lliniaru effeithiau’n creisis.