Nigel Lawson (Financial Times Trwydded CC BY 2.0)
Y cyn-Ganghellor Nigel Lawson fydd yn arwain ymgyrch gan Geidwadwyr i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe gyhoeddodd y bydd hefyd yn ffurfio grŵp trawsbleidiol ag eraill fydd yn rhannu’r un amcan.

Dywedodd y cyn-ganghellor nad oedd yn gallu aros mwyach i David Cameron a George Osborne gynnal trafodaethau â’r Undeb er mwyn ceisio sicrhau diwygiadau cyn cynnal refferendwm rywbryd yn 2016.

Doedd e ddim yn disgwyl, meddai, y byddai fawr ddim newydd yn dod o’r trafodaethau.

‘Angen dechrau’n awr’

Roedd yn mynnu bod angen i’r ymgyrch ‘Na’ ddechrau nawr, gan ddweud bod peryg i elfennau “senoffobig” feddiannu’r ymgyrch fel arall.

“Mae nifer o fy nghydweithwyr yn y blaid Geidwadol yn aros i weld beth mae’r Prif Weinidog yn ei sicrhau o’r trafodaethau cyn penderfynu os ydyn nhw am aros ‘mewn’ neu ‘allan’,” meddai’r Arglwydd Lawson mewn colofn yn The Times. “Allwn ni ddim fforddio aros mor hir â hynny.

“Os ydyn ni’n gadael y bwlch yn wag, fe fydd lleisiau llai cymedrol, senoffobig, yn ennill y blaen ar y drafodaeth ac fe fyddwn ni’n methu unwaith y bydd y llywodraeth, y pleidiau gwleidyddol mawr, y CBI a’r undebau llafur yn cyhoeddi eu bod nhw’n cefnogi’r ymgyrch ‘Ie’.”

‘Ddim yn wrth-Ewropeaidd’

Ychwanegodd yr Arglwydd Lawson ei fod yn credu ei bod hi’n “hynod o annhebygol” y bydd unrhyw ddiwygiadau sylweddol yn deillio o’r trafodaethau.

“Mae [yr Undeb Ewropeaidd] yn fenter hollol wleidyddol a does dim mantais economaidd i ni o gwbl. A dweud y gwir, mae’n ein niweidio ni’n economaidd,” meddai wrth BBC Radio 4.

“Dw i ddim yn wrth-Ewropeaidd. Dw i’n siarad o fy nghartref yn Ffrainc.

“Nid Ewrop yw’r broblem, y broblem yw’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi chwythu ei phlwc bellach.”