Mae cwmni olew Shell wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhoi’r gorau i dyllu am olew yn yr Arctig.

Dywed y cwmni eu bod nhw wedi dod o hyd i olew a nwy yno, ond nid oedd digon o gyflenwad yno.

Gallai’r cyhoeddiad hwn fod yn “drobwynt mawr” yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, yn ôl ymgyrchwyr.

Daw’r cyhoeddiad ychydig wythnosau yn unig cyn y cyfarfod ym Mharis a fydd yn trafod rôl gwahanol wledydd ar sut i fynd i’r afael â chynhesu byd-eang.

Fe wnaeth amgylcheddwyr alw ar Shell i ddatgan sut y bydden nhw’n addasu eu busnes i gyd-fynd â’r cynnydd diweddar mewn tymereddau ar draws y byd.

‘Ymddwyn fel trobwynt’

 

Mae ymgyrchwyr ac amgylcheddwyr wedi croesawu’r cyhoeddiad hwn, oherwydd roedden nhw’n poeni am y peryg o ollwng olew i mewn i’r môr a fyddai’n niweidio’r amgylchedd.

“Mae hwn yn newyddion arbennig ar gyfer pobol a bywyd gwyllt yn ardal yr Arctig,” meddai Craig Bennett, Prif Weithredwr Cyfeillion y Ddaear.

“Ond mae’n rhaid iddo ymddwyn fel trobwynt i’r frwydr i rwystro newid trychinebus yn yr hinsawdd.”

Fe soniodd fod Shell wedi gwario £4.6 biliwn wrth dyllu yn yr Arctig, a dywedodd y dylai’r arian hwnnw fod wedi’i fuddsoddi mewn cynlluniau i ddatblygu ynni adnewyddadwy.

“Gallai’r arian yna fod wedi cael ei fuddsoddi mewn ynni solar, gwynt neu ynni’r llanw,” esboniodd.

Roedd yn galw felly ar Lywodraeth Prydain i gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy.

“Fel arall, mae yna beryg y byddwn ni’n gaeth i dechnolegau dyddiedig, diangen na allwn eu defnyddio mwyach.”

Roedd Rod Downie, o’r WWF hefyd yn croesawu cyhoeddiad Shell, ac roedd yntau’n ofni y gallai dyllu am olew roi pobol leol a bywyd gwyllt yr Arctig – gan gynnwys eirth gwynion, mewn perygl.

“Fe ddylai Shell fynd ati’n awr i gyflwyno i’w gyfranddalwyr ac i’r cyhoedd sut y mae’n bwriadu newid model y cwmni i fod yn gydnaws â’r angen i rwystro newid hinsawdd,” ychwanegodd.