Dywed Heddlu Dyfed Powys bod beiciwr modur wedi cael ei ladd mewn gwrthdrawiad ger Llangain, Sir Gâr neithiwr.
Roedd y beiciwr modur 55 oed o Gaerfyrddin yn teithio ar y B4312, tua milltir i ffwrdd o bentref Llangain, pan fu mewn gwrthdrawiad â char Mercedes.
Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 6.25yh nos Sul, wrth i’r beiciwr modur deithio o gwmpas cornel ochr chwith gan wrthdaro â’r car.
Roedd yn gyrru beic modur Kawasaki 1100cc.
Mae ei deulu wedi cael gwybod am y farwolaeth.
Cafodd gyrrwr y car Mercedes, dyn 58 oed o ardal Abertawe, ei drin am sioc.