Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande
Mae chwech o awyrennau rhyfel Ffrainc wedi targedu a dinistrio gwersyll hyfforddi a oedd yn cael ei ddefnyddio gan y gwrthryfelwyr eithafol Islamic State yn nwyrain Syria.

Fe wnaeth y cyhoeddiad gan arlywydd Ffrainc Francois Hollande, a ddywedodd fod y gwersyll yn fygythiad i ddiogelwch Ffrainc ac iddo gael ei ddinistrio heb i neb diniwed gael eu lladd.

Roedd yr arlywydd wedi dweud fod Ffrainc yn benderfynol o daro’n ôl yn erbyn IS, a oedd, meddai,  yn cynllwynio ymosodiadau yn erbyn llawer o wledydd gan gynnwys Ffrainc.

Dywedodd y gallai rhagor o ymosodiadau ddigwydd dros yr wythnosau nesaf os bydd angen.

Cafodd y targedau eu hadnabod mewn teithiau archwilio blaenorol, a diolchodd yr arlywydd i’r gynghrair sydd o dan arweiniad America am yr wybodaeth.