Arlywydd Syria, Bashar al-Assad (Rakkar CCA 3.0)
Fe fydd yn rhaid i Syria gael arweinydd newydd i gymryd lle Bashar al-Assad os am sicrhau heddwch yn y wlad, yn ôl y Prif Weinidog David Cameron.

Dyna fydd ei neges wrth arweinwyr eraill mewn cyfarfod o Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd heddiw.

Mae llywodraeth Prydain o’r farn y bydd yn fwy anodd datrys yr anghydfod yn Syria yn sgil penderfyniad llywodraeth Rwsia i helpu lluoedd Assad.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae Rwsia wedi anfodn awyrennau rhyfle, tanciau, drôns a milwyr i Syria.

Dadl arlywydd Vladimir Putin yw mai cefnogi Assad yw’r ffordd orau o drechu’r eithafwyr Mwslimadd Isamic State.

Mewn cyfres o gyfarfodydd un-i-un ag arweinwyr eraill, gan gynnwys arlywydd America, Barack Obama, bwriad David Cameron yw eu hargyhoeddi y bydd angen arweinydd newydd i uno’r wlad.

“Mae ein barn ni’n glir iawn – mae Isil ac Assad yn elynion i bobl Syria,” meddai un o swyddogion y Swyddfa Dramor. “Mae’r Prif Weinidog yn gryf o’r farn fod arnoch angen arweinydd gwahanol i adeiladu Syria heddychlon a chynhwysol.”

Gobaith David Cameron yw y bydd yr argyfwng ffoaduriaid yn symbylu penderyniad o’r newydd i ddod â heddwch i Syria.

“Mae digwyddiadau dros yr ychydig fisoedd diwethaf wedi dwysáu’r brys i gael ateb heddychlon,” meddai’r swyddog o’r Swyddfa Dramor. “Mae arnom eisiau cydio yn y cyfle i roi momentwm yn y broses.”