Lloegr 25 – 28 Cymru

Sicrhaodd Cymru fuddugoliaeth hanesyddol mewn gêm hynod yn erbyn Lloegr ar eu tomen eu hunain yn Twickenham heno.

Llwyddodd Dan Biggar gydag 8 cic o 8 ymgais at y pyst, gyda Gareth Davies yn ychwanegu cais gwych ddeng munud o’r diwedd.

Er i Gymru sgorio’r pwyntiau cyntaf gyda chic gosb gynnar, Lloegr reolodd y gêm am gyfnodau hir o’r gêm gyda sgrym a llinellau Cymru’n wallus.

Roedd cicio Owen Farrell yr un mor gywir â Biggar, ac yntau’n cadw record 100% wrth gicio at y pyst.

Roedd pethau’n edrych yn ddu ar wrth i wibiwr y Saeson, Johnny May groesi am gais cyntaf y gêm cyn yr hanner i roi 7 pwynt o fantias i’r Saesnon ar yr hanner.

Dechreuodd y rhod droi gyda rhyw ugain munud yn weddill wrth i Gymru ddod â’r eilyddion Ken Owens a Samson Lee i’r cae, a chodi tempo’r gêm.

Ond fel yr oedd Cymru’n edrych fel eu bod am gipio’r fuddugoliaeth, daeth anafiadau unwaith eto i lethu tîm Warren Gatland.  Y canolwr trydanol, Scott Williams oedd y cyntaf i adael y maes gydag anaf oedd yn edrych yn gas, ac a allai fygwth ei ddyfodol yn  y gystadleuaeth.

Yna gadawodd Hallam Amos a Liam Williams yr un pryd wedi cymal gwallgof o chwarae. Bellach roedd y maswr Dan Biggar yn gefnwr, y mewnwr Lloyd Williams ar yr asgell a’r asgellwr George North yn y canol.

Ond, dangoswyd ysbryd aruthrol gan y cochion i barhau i frwydro a daeth y cais hollbwysig wrth i Lloyd Williams guro’i ddyn ar yr asgell a chicio’n lletraws i Gareth Davies gasglu a thurio rhwng y pyst. Ychwanegodd Biggar y trosiad i ddod â’r sgôr yn gyfartal.

Doedd hi ddim drosodd, ac roedd dal cyfle i seren y gêm, Biggar drosi cic gosb enfawr i roi’r Cymru ar y blaen.

Roedd digon o nerfusrwydd ar ôl, ac yn ddiddorol, ac efallai’n ddadleuon penderfynodd Lloegr gicio i’r gornel er mwyn mynd am y cais funudau o’r diwedd, yn hytrach na chymryd triphwynt hawdd i ddod â’r sgôr yn gyfartal.

Llwyddodd Cymru i chwalu’r sgarmes symudol a ddaeth o’r llinell, cyn gwneud digon i ladd y gêm nes cyrraedd 80 munud … a phwy ond Dan Biggar i gael y gair olaf wrth gicio’r bêl i resi cefn HQ.

Lloegr: England: Mike Brown; Anthony Watson, Brad Barritt, Sam Burgess, Jonny May, Owen Farrell, Ben Youngs; Joe Marler, Tom Youngs, Dan Cole, Geoff Parling, Courtney Lawes, Tom Wood, Chris Robshaw (c), Billy Vunipola.

Eilyddion: Rob Webber, Mako Vunipola, Kieran Brookes, Joe Launchbury, James Haskell, Richard Wigglesworth, George Ford, Alex Goode.

Cymru: Liam Williams; George North, Scott Williams, Jamie Roberts, Hallam Amos; Dan Biggar, Gareth Davies; Gethin Jenkins, Scott Baldwin, Tomas Francis, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (c), Taulupe Faletau.

Eilyddion: Ken Owens, Aaron Jarvis, Samson Lee, Luke Charteris, Justin Tipuric, Lloyd Williams, Rhys Priestland, Alex Cuthbert.