David Cameron
Bydd Prif Weinidog Prydain yn pwyso ar arweinwyr Ewropeaidd i estraddodi mwy o fewnfudwyr economaidd o’r cyfandir a rhoi rhagor o gymorth ariannol i wledydd ar y ffin â Syria.

Yn ôl David Cameron, bydd hyn yn helpu i leihau’r argyfwng sydd wedi gweld dros filiwn o bobl yn ffoi o Syria a gwledydd eraill i ddod o hyd i loches yng ngwledydd Ewrop.

Cyn cyfarfod brys rhwng arweinwyr Ewrop ym Mrwsel, roedd y Prif Weinidog wedi croesawu Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande i Chequers, lle gwnaeth y ddau gytuno ar feysydd i alw am ragor o weithredu.

Mae Prydain wedi rhoi £1 biliwn mewn cymorth, sydd yn fwy nag unrhyw genedl Ewropeaidd arall, i wledydd sydd ar y ffin â Syria sydd wedi cynnig lloches i filiynau o ffoaduriaid.

Serch hynny, mae ’na feirniadaeth lem o Lywodraeth Prydain am beidio â gwneud digon i helpu’r ffoaduriaid sydd eisoes wedi cyrraedd Ewrop.