Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y byddan nhw’n cyflwyno deddfwriaeth  i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru mewn llywodraeth Geidwadol yn y dyfodol.

Daw’r cyhoeddiad wedi beirniadaeth ddiweddar ar sioe deithio yng Nghymru oedd yn cynnwys llewod a theigrod.

Dywedodd Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Faterion Amaethyddol a Gwledig, Russell George AC ei fod yn “credu’n gryf y dylai defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau gael ei wahardd yn gyfan gwbl yng Nghymru.”

“Mae’r sioeau hyn yn farbaraidd. Does ganddyn nhw ddim lle o gwbl yma a byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud y gwaharddiad hwn yn gyfraith.

“Mae lles anifeiliaid yn fater sydd wedi cael ei ddatganoli a dydyn ni ddim yn gweld rheswm pam nad yw gweinidogion Llafur yn gallu mynd i’r afael â’r broblem eu hunain.”

‘Hanfodol’ – RSPCA Cymru

 

“Mae gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn rhywbeth rydym ni wedi bod yn galw amdano am nifer o flynyddoedd,” meddai llefarydd ar ran RSPCA Cymru.

“Wrth i bleidiau gwleidyddol Cymru lunio eu cynlluniau ar gyfer y Llywodraeth nesaf, rydym wedi llunio rhestr o faterion hanfodol sy’n ymwneud â lles anifeiliaid y credwn dylai fod ar frig eu hagenda.

“Mae hyn yn cynnwys gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.”

‘Newid camdybiaethau’

 

Un sydd yn erbyn y gwaharddiad hwn yw Anthony Beckwith, dofwr cathod gwyllt ac un o reolwyr y cwmni An Evening with Lions and Tigers sydd ar daith o amgylch Cymru ar hyn o bryd.

“Mae’r honiad bod hyn yn farbaraidd yn hurt. Ein nod yw addysgu pobl a newid camdybiaethau am ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau,” meddai.

“Rydym yn cydymffurfio â holl reolau lles anifeiliaid ac mae gennym bolisi drws agored i unrhyw un allu dod i weld sut ydym yn hyfforddi’r anifeiliaid.”

Mae Anthony Beckwith yn dweud er iddo wahodd gwleidyddion o bob rhan o Gymru i ddod i weld sut mae’r anifeiliaid yn cael eu trin, does yr un ohonynt wedi bod i’w weld eto.

“Rydym ni a’r anifeiliaid fel teulu ac rydym yn edrych ar eu holau.”

‘Pwyso am ddeddfwriaeth’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn credu nad oes lle i anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.

“Fe fydd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd yn cwrdd â gweinidogion Defra yn fuan i barhau i bwyso am ddeddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.”