Mae gweinidog iechyd Seland Newydd wedi ymddiswyddo ar ôl gwneud cyfres o gamgymeriadau personol yn ystod pandemig y coronafeirws.

Roedd David Clark wedi dweud ei fod wedi ymddwyn yn “wirion” am dorri cyfyngiadau llym y wlad. Ym mis Ebrill roedd wedi gyrru 12 milltir i fynd am dro ar y traeth gyda’i deulu tra roedd y llywodraeth wedi galw ar bobl i aros yn eu cartrefi.

Yr wythnos ddiwethaf roedd yn ymddangos ei fod hefyd wedi rhoi’r bai ar arbenigwr meddygol y wlad, Ashley Bloomfield, am ganiatáu i rai teithwyr adael cwarantin heb gynnal profion arnyn nhw, gan arwain at ymateb chwyrn gan y cyhoedd.

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad dywedodd David Clark y byddai parhau yn ei swydd yn tynnu sylw oddi ar ymateb y llywodraeth i Covid-19.

Mae ymateb Seland Newydd i’r pandemig wedi cael ei ganmol gan wledydd eraill ar draws y byd ar ôl i’r wlad lwyddo i atal lledaeniad y firws yn llwyr.

Ar ôl iddo dorri’r cyfyngiadau ym mis Ebrill dywedodd y Prif Weinidog Jacinda Ardern y byddai hi, o dan amgylchiadau arferol, wedi rhoi’r sac iddo ond nad oedd y wlad yn gallu fforddio tarfu ar waith y sector iechyd yn ystod y frwydr yn erbyn Covid-19.

Ond roedd hi wedi derbyn ei ymddiswyddiad heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 2) gan ddweud ei fod yn “hanfodol” bod gan y cyhoedd hyder yn arweinyddiaeth iechyd y wlad.