Mae canolfan antur Adventure Parc Snowdonia yng Nghonwy wedi dweud na fyddan nhw’n ailagor eleni.

Mae’r ganolfan ger Llanrwst yn darparu cyfleoedd i syrffio, dringo, glampio – campio moethus – ac mae hefyd yn gartref i sba.

Ond bellach maen nhw wedi cyhoeddi y byddan nhw ar gau am weddill y flwyddyn am na fyddan nhw’n gallu ailagor “y mwyafrif helaeth” o’u cyfleusterau dan gyfyngiadau’r Llywodraeth.

“Rydym yn gwybod y bydd hyn yn siom fawr i bawb a oedd yn edrych ymlaen at dreulio amser â ni eleni,” meddai datganiad gan y ganolfan. “Mae hyn yn siom i ninnau hefyd…

“Mae’r gefnogaeth barhaus yn ein calonogi, ac rydym yn ei gwerthfawrogi… Cadwch yn iachus, a chymerwch ofal. Gobeithiwn na fydd gormod o amser tan y gwelwn ni chi nesa’.”

Ymateb i’r newyddion

Mae Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd, David Jones, wedi ymateb gan alw’r cyhoeddiad yn “newyddion hynod o wael”.

Mae yna ansicrwydd o hyd ynghylch pryd fydd y diwydiant twristiaeth yn ailagor yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn wynebu galwadau gan y sector am fwy o eglurder er mwyn ceisio sicrhau swyddi.