Mae 13 o ffoaduriaid wedi cael eu lladd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cwch a fferi oddi ar arfordir Twrci.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ger dinas orllewinol Canakkale.

Cafodd wyth o bobol eu hachub yn dilyn y digwyddiad, ond mae’r chwilio’n parhau.

Dyma’r ail ddigwyddiad o’r fath yn ystod y deuddydd diwethaf, wedi i gwch suddo oddi ar ynys Lesbos.

Mae 26 o bobol yn dal ar goll oddi ar Lesbos, tra bod 20 o bobol eisoes wedi cael eu hachub.

Yn y cyfamser, mae Hwngari wedi ail-agor y ffin gyda Serbia bum niwrnod wedi iddyn nhw gymryd camau i atal ffoaduriaid rhag mynd i mewn i’r wlad.

Mae mwy nag 16,000 o ffoaduriaid wedi cyrraedd Hwngari o Groatia ers dydd Gwener.

Mae cynlluniau ar y gweill i gynnig lloches i’r holl ffoaduriaid.