Mae cwmni syrcas Cirque du Soleil wedi gwneud cais am gymorth credydwyr yng Nghanada wrth iddyn nhw geisio datblygu cynllun i ailgychwyn y busnes yng nghanol y pandemig.

Roedd y cwmni sioe syrcas gelfyddydol o Montreal wedi dirwyn cynyrchiadau ledled y byd i ben dros dro ym mis Mawrth oherwydd yr achosion o’r coronafeirws.

Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd miloedd o weithwyr eu rhoi ar gennad, ond cyhoeddodd Cirque du Soleil fod tua 3,480 o’r gweithwyr hynny bellach wedi gorfod gadael eu swyddi.

Ond maen nhw’n dweud mai bwriad cael cymorth y noddwyr yw ailgyflogi mwyafrif sylweddol o’r gweithwyr hynny pan fydd perfformiadau’n cael ailgychwyn.

Ychwanegodd y cwmni bod disgwyl i sioeau yn Las Vegas ac Orlando ailddechrau cyn sioeau eraill.

Mae’r sioeau yn Las Vegas a gafodd eu canslo yn cynnwys O yn y Bellagio, KA yn yr MGM Grand, y Beatles LOVE yn y Mirage, Mystere yn Treasure Island, Zumanity yn New York-New York a Michael Jackson ONE yn Mandalay Bay.

Mae Cirque du Soleil yn perfformio yn Austin, Chicago, Houston, New Orleans, Salt Lake City, Montreal yng Nghanada, Boston, Tel Aviv yn Israel, Meloneras yn Sbaen, München yn yr Almaen, Costa Mesa yng Nghaliffornia, Denver, a Melbourne yn Awstralia.