Mae lluoedd, dan arweiniad Sawdi Arabia, wedi cynnal cyrchoedd o’r awyr ar wrthryfelwyr Shiaidd yn Yemen, ac mae 29 o bobol wedi’u lladd yn y brifddinas, Sanaa.

Fe gafodd adeilad o fflatiau ei daro yng nghanol y ddinas, gan ladd un teulu o naw. Cafodd un person diniwed arall ei ladd, a’r ofn ydi y gallai unigolion eraill fod ar goll o dan y rwbel.

Fe laddwyd yn ogystal 19 o’r gwrthryfelwyr, sy’n cael eu hadnabod fel ‘Houthis’ mewn ymosodiad dros-nos.

Mae Yemen wedi’i rhwygo gan yr ymladd sy’n digwydd rhwng yr Houthis a’u cefnogwyr ar y naill law, a lluoedd y llywodraeth a chefnogaeth gan gynghreiriaid Sawdi Arabia ar y llall.