David Cameron
Mae David Cameron wedi ymweld â gwersylloedd y ffoaduriaid yn Libanus, er mwyn gweld sut y mae’r arian a’r cymorth o Brydain yn cael ei roi ar waith.

Fe aeth i ymweld â’r gwersylloedd yn nyffryn Bekaa, llai na milltir i ffwrdd o’r ffin rhwng Libanus a Syria.

“Roeddwn i am ddod yma i weld y sefyllfa drosof fy hun, ac i glywed straeon personol y ffoaduriaid,” meddai’r Prif Weinidog.

Ymweld â’r gwersylloedd

Fe fu’r Prif Weinidog yn siarad â nifer o ffoaduriaid, gan glywed hanes un fam a oedd yn bwydo’i deg o blant gyda phum doler y mis yn unig.

Fe aeth i ymweld â theulu arall hefyd a fydd yn gadael Libanus ac yn cael lloches yn y DU – wedi ei gyhoeddiad diweddar am yr 20,000 o ffoaduriaid fydd yn cael eu hail-gartrefu yn y DU yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae 1,500 o wersylloedd yn nyffryn Bekaa, ac maen nhw lai na milltir i ffwrdd o’r ffin a Syria.

Mewn un gwersyll, mae tua 90 o bebyll gyda mwy na 500 o bobol yn cael eu cywasgu iddynt.

Mae tua 1.1 miliwm o ffoaduriaid wedi mynd a dod trwy’r gwersylloedd yn Libanus – mwy na chwarter poblogaeth y wlad.

Mae’r ffoaduriaid o Syria yn troi am loches yma wrth iddynt ddianc rhag llywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad a’r eithafwyr Islamaidd IS.

Buddsoddi mewn addysg

Cyhoeddodd y Prif Weinidog yn gynharach fis Medi, y bydd y DU yn ymrwymo gwerth £29 miliwn o gymorth i Libanus. Mae hynny’n ychwanegol at y £100 miliwn sydd eisoes wedi’i ddarparu i helpu ffoaduriaid Syria a’r gwledydd cyfagos.

Bydd hyn yn talu am becynnau bwyd i filoedd o ffoaduriaid, dŵr glân, blancedi a chefnogaeth i blant ac oedolion.

Fe ddywedodd hefyd y bydd yn cynyddu’r swm o arian sy’n cael ei fuddsoddi i ddarparu addysg i blant Syria; “fel na fyddwn ni’n colli cenhedlaeth yn y gwrthryfel hwn”.

‘Canolbwyntio ar ffoaduriaid yn Syria’

Mae’r Deyrnas Unedig wedi gwrthod ymuno â chynllun yr Undeb Ewropeaidd i ail-leoli 160,000 o fewnfudwyr sydd ar y cyfandir.

Ond, yn hytrach, bydd Prydain yn canolbwyntio ar y ffoaduriaid yn Syria, Libanus a Gwlad yr Iorddonen.

Drwy fuddsoddi cymorth i’r gwersylloedd hyn, dywedodd y Prif Weinidog y bydd modd atal mwy o bobol rhag mentro’r daith beryglus i Ewrop.

Fe ddywedodd hefyd y bydd yr 20,000 o ffoaduriaid yn cael “croeso cynnes” yn y DU:

“Fe wnawn ni’n siŵr y bydd cartrefi ar eu cyfer, ac ysgolion i’w plant,” ychwanegodd.

Cyfarfod Prif Weinidog Libanus

Fe wnaeth David Cameron ymweld â disgyblion yn ysgol Sed el Boucrieh ym mhrifddinas Libanus – ysgol sy’n darparu addysg i blant o Syria, ac sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan gymorth y DU.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cynnal trafodaethau â Tammam Salam, Prif Weinidog Libanus.