Mae wyth o bobl wedi marw mewn tân ffyrnig dros nos mewn fflatiau ym Mharis.
Mae’r Heddlu yn amau fod y tân wedi ei gynnau’n fwriadol ac mae dyn wedi cael ei arestio, yn ôl swyddogion.
Bu farw rhai wrth neidio o ffenestri’r adeilad a chafodd nifer o bobl eraill eu cludo i’r ysbyty. Roedd dau o blant ymhlith y meirw.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân fod diffoddwyr tân wedi’u galw i’r safle i ddiffodd tân bychan oddeutu hanner nos, ond eu bod wedi eu galw yn ôl ddwy awr yn ddiweddarach i dân llawer mwy.
Cafodd dros 100 o ddiffoddwyr tân eu galw i’r safle. Mae’n debyg mai dyma’r tân mwyaf ers 2005 yn y brifddinas.