Mae 10 o bobol yn y ddalfa yn Sisili ar amheuaeth o smyglo pobol ac o lofruddiaeth, wedi i ddwsinau o ymfudwyr gael eu cario mewn cwch lle cafodd cyrff 52 o bobol eu canfod.
Fe aeth y llong, Poseidon, o Sweden i achub 439 o bobol ddydd Mercher, ond fe ddaeth criw hefyd o hyd i’r cyrff yn yr howld dan glo.
Mae’r rheiny wnaeth oroesi’r daith wedi bod yn dweud wrth yr awdurdodau sut yr oedd y smyglwyr yn eu curo gyda chyllyll os oedden nhw’n ceisio dod i fyny ar y dec i gael aer.
Mae swyddfa’r erlynydd yn Palermo wedi cadarnhau fod y rheiny sydd wedi’u harestio yn cynnws 7 o Morocco, 2 o Syria ac un o Libya.
Roedd yr ymfudwyr yn hanu’n benna’ o’r Sudan, Senegal, Nigeria, Pacistan a Bangladesh.