Mae cantores bop ymysg y rheiny sydd wedi’i henwi gan brif weinidog newydd Gwlad Groeg yn ei chabinet dros dro, wrth i’r wlad baratoi ar gyfer etholiadau.

Cafodd Vassiliki Thanou ei chadarnhau fel y prif weinidog newydd gan Uchel Lys y wlad dydd Iau, a hynny ar ôl ymddiswyddiad Alexis Tsipras yn dilyn gwrthryfel o fewn ei blaid ei hun.

Ymysg y rheiny gafodd eu dewis i’r cabinet dros dro mae’r gantores Alkistis Protopsalti, sydd wedi cael ei henwi fel y gweinidog twristiaeth.

Fe aeth swydd y gweinidog cyllid i Giorgos Houliarakis, academydd oedd yn rhan o dîm Groeg yn y trafodaethau ar y cymorthdaliadau ariannol maen nhw wedi ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd.

Etholiadau

Fe alwodd Alexis Tsipras etholiadau cynnar pan gamodd o’r neilltu yr wythnos diwethaf, ac fe fydd y rheiny’n cael eu cynnal ar Fedi 20.

Dywedodd fod angen mandad cryfach ar ei blaid adain chwith ef, Syriza, os oedden nhw am weithredu amodau’r cymorthdaliadau gwerth €86bn dros dair blynedd roedd y wlad wedi’i dderbyn.

Ond yn ôl polau piniwn y wlad mae mwyafrif yn credu bod Alexis Tsipras wedi gwneud y penderfyniad anghywir wrth alw etholiadau cynnar.

Dywedodd 48% fodd bynnag eu bod yn credu fod y llywodraeth wedi cael y fargen orau y gallai fod wedi’i gael gan y sefydliadau ariannol, gyda 45% yn anghytuno.

Ac roedd 68% yn credu y dylai’r wlad aros yn yr Ewro hyd yn oed os oedd hynny’n golygu mwy o fesurau llymder.