Angela Merkel gyda David Cameron
Mae cyrff mwy na 70 o fewnfudwyr wedi’u canfod yng nghefn y lori oedd wedi’i gadael ar fin traffordd yn Awstria.

Wrth i arweinwyr Ewrop gyfarfod yn Fienna, prifddinas Awstria, ddoe er mwyn ceisio mynd i’r afael a chreisis y ffoaduriaid, fe ddaethpwyd o hyd i lori yn cynnwys cyrff meirw y tu mewn iddi.

Roedd adroddiadau cynnar yn dweud y gallai fod hyd at 50 o gyrff yn y lori, ond mae cyfryngau Awstria erbyn heddiw yn dweud fod dros 70 o gyrff.

Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, yn dweud ei bod “wedi ei siglo” gan y newydd “ofnadwy”.

“Mae hyn yn ein hatgoffa fod yn rhaid i ni, yn Ewrop, daclo’r broblem yn gyflym, gan ddod o hyd i atebion gyda’n gilydd,” meddai.