Mae’r peilot o Awstralia a ddihangodd o wersyll rhyfel yng ngwlad Pwyl yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wedi marw. Roedd Paul Royle yn 101 oed ac yn byw yn Perth.

Cafodd ei brofiadau yn ystod y rhyfel eu troi’n ffilm, The Great Escape, yn 1963, gyda’r actor Steve McQueen yn serennu.

Bu farw Paul Royle yn Ysbyty Perth, wedi iddo gael llawdriniaeth ar ei glun, ar ôl cwympo mewn cartref nyrsio.

Mae ei farw’n gadael Dick Churchill, 94 oed, arweinydd y sgwadron – yr unig un sy’n dal yn fyw o’r criw o 76 o ddynion a ddihangodd o wersyll Stalag Luft III yng Ngwlad Pwyl yn 1944.