Mae marchnadoedd ariannol ar draws Asia wedi gostwng yn sylweddol ar ôl i brif fynegai China ostwng 8.5% wrth i fuddsoddwyr ruthro i werthu cyfrannau yn sgil ansicrwydd economaidd.

Dyma’r golled fwyaf mewn diwrnod ers mis Chwefror  2007.

Daeth yr arwyddion cyntaf bod economi China yn arafu ddydd Gwener ddiwethaf, pan welwyd ton o gyfrannau yn Ewrop a’r Unol Daleithiau yn cael eu gwerthu gan arwain  at gwymp o bron i 6% ar y farchnad stoc yn China.

Mae buddsoddwyr bychain yn China wedi dioddef colledion trwm, gan fygwth cynlluniau’r Blaid Gomiwnyddol i ddefnyddio’r farchnad i godi arian i ddiwygio  diwydiannau’r wladwriaeth.

Yn ôl sylwebwyr ariannol, mae peryg y gall y cwymp ariannol yn China ledu fel tân gwyllt i farchnadoedd Ewrop a’r Unol Daleithiau maes o law.