Colofnau Rhufeinig yn Palmyra
Yn ôl adroddiadau, mae eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi dinistrio teml yn ninas hynafol Palmyra yn Syria.

Daw’r adroddiadau ynglŷn â Theml Baalshamin ar ôl i eithafwyr lofruddio’r ysgolhaig Khaled al-Asaad yn Palmyra ddydd Mawrth.

Dywed y corff sy’n goruchwylio hawliau dynol yn Syria bod y deml wedi cael ei dinistrio fis yn ôl ond dywed yr ymgyrchydd Osama al-Khatib yn Nhwrci bod ffrwydrad wedi dinistrio’r deml heddiw.

Credir bod y ffrwydrad hefyd wedi difrodi rhai o golofnau Rhufeinig y safle.

Maen nhw’n dibynnu am wybodaeth gan y rhai sy’n dal i fod yn Palmyra ac mae anghysondebau yn y  wybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo iddyn nhw yn gyffredin.