Mae teiffwn Goni wedi lladd o leiaf 15 o bobol yn ardal ogleddol y Filipinas, ac mae nifer o bobol eraill yn dal ar goll.
Mae’r chwilio am oroeswyr yn y pentref yn parhau.
Dywed yr awdurdodau eu bod nhw wedi canfod y teiffwn ryw 267 o filltiroedd i’r gogledd ddwyrain o dref Basco yn nhalaith Batanes.
Mae’r gwyntoedd wedi cyrraedd cyflymdra o 105 milltir yr awr ar eu gwaethaf, ond maen nhw wedi gostegu rywfaint erbyn hyn.
Mae disgwyl i’r teiffwn gyrraedd Siapan o fewn 24 awr.
Cafodd y rhan fwyaf o’r meirw eu lladd yn nhalaith Benguet, gan gynnwys 11 o bobol mewn tirlithriad.